Cyflwyniad

Mae’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn gan ysgolion fu’n rhan o brosiect Caneuon y Cerrig yn 2009 yn cadarnhau fod y prosiect wedi cyflwyno cwricwlwm seiliedig ar sgiliau mewn modd unigryw ac apelgar llwyddiannus, gan gynnig profiadau heriol ac o safon uchel i’r athrawon a’r disgyblion a fu’n rhan o’r prosiect.

Fe fydd y prosiect addysg animeiddio yn cael ei gynnal yn flynyddol hyd 2013, gan ehangu i gynnwys nifer o leoliadau canoloesol a Rhufeinig ar hyd a lled Cymru.

Llafur gwaith prosiect 2010 yw’r ffilmiau a welir yma sy’n portreadu dehongliad ysgolion a grwpiau ieuenctid o gestyll canoloesol gogledd ddwyrain Cymru - Dinbych, Ewlo, Fflint a Rhuddlan.

Crëwyd y ffilmiau hyn gan Ysgol Ewloe Green, Glannau Dyfrdwy, Ysgol Gynradd Rhuddlan, Ysgol Cornist Park y Fflint, Ysgol Heulfre yn Ninbych a grŵp arbennig o Fenter Iaith Fflint a leolir yn Yr Wyddgrug. Fe hoffai Cadw ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled ac am greu gwaith mor wych.

Ewloe_Green_Primary_School_PLAYER

Ysgol Gynradd Ewloe Green - Ffilm 1

Ewloe_Green_Final_PLAYER

Ysgol Gynradd Ewloe Green - Ffilm 2

Ruddlan_County_Primary_School_PLAYER

Ysgol Gynradd Rhuddlan


Cornist_Park_Primary_School_PLAYER

Ysgol Cornist Park

Heulfre_Primary_School_PLAYER

Ysgol Heulfre

Menter_Iaith_Youth_Group_PLAYER

Grŵp Ieuenctid Menter Iaith